Cymunedau
Mae pobl ym mhob cwr o'r byd yn cyfrannu at neu'n ddefnyddio OpenStreetMap. Er bod llawer yn cymryd rhan fel unigolion, mae rhai eraill wedi creu cymunedau. Ceir grwpiau gwahanol sy'n cynrychioli trefi bach neu ardaloedd aml-wlad mawr. Gall grwpiau fod yn ffurfiol neu'n anffurfiol.
Siapteri Lleol
Mae Siapteri Lleol yn grwpiau ar lefel gwlad neu ranbarth sydd wedi cymryd y cam ffurfiol o sefydlu cyrff cyfreithiol nid-er-elw. Maen nhw'n cynrychioli map a mapwyr yr ardal wrth ddelio â llywodraeth leol, busnes, a chyfryngau. Maen nhw hefyd wedi ffurfio cysylltiad â'r OpenStreetMap Foundation (OSMF), gan roi dolen iddynt i'r corff llywodraethu cyfreithiol a hawlfraint.
Mae'r cymunedau canlynol wedi'u sefydlu'n ffurfiol fel Siapteri Lleol:
- OpenStreetMap Gwlad Belg
- OpenStreetMap RDC
- OpenStreetMap Gweriniaeth Tsiec
- OpenStreetMap Ffrainc
- OpenStreetMap Iwerddon
- OpenStreetMap Gwlad yr Iâ
- OpenStreetMap Yr Eidal
- Free Libre Open Source Software Kosova (FLOSSK)
- OSGeo Oceania
- GeoLibres
- OpenStreetMap Awstria
- OpenStreetMap Yr Almaen
- OpenStreetMap Japan
- OpenStreetMap Gwlad Pwyl
- OpenStreetMap Yr UDA
- OpenStreetMap Freemap Slofacia
- OpenStreetMap Swistir
- OpenStreetMap Y DU
Grwpiau Eraill
Nid oes rhaid sefydlu grŵp ffurfiol yn yr un modd â'r Siapteri Lleol. Mae llawer o grwpiau llwyddiannus yn bodoli fel grwpiau anffurfiol neu fel grŵp cymunedol. Gall unrhyw un ddechrau neu ymuno â grwp. Darllenwch fwy ar y dudalen wici Cymunedau.