Logo OpenStreetMap OpenStreetMap

©Cyfranwyr
OpenStreetMap

Mae OpenStreetMap yn darparu data map ar gyfer miloedd o wefannau, apiau symudol a dyfeisiau caledwedd

Mae OpenStreetMap yn cael ei greu gan gymuned o fapwyr sy'n cyfrannu ac yn cynnal a chadw data am ffyrdd, llwybrau, caffis, gorsafoedd trenau, a llawer mwy ledled y byd.

Gwybodaeth Leol

Mae OpenStreetMap yn rhoi pwyslais ar wybodaeth leol. Mae cyfranwyr yn defnyddio delweddaeth o'r awyr, dyfeisiau GPS, a mapiau maes technoleg isel i wirio bod OSM yn gywir ac yn gyfredol.

Gwaith y Gymuned

Mae cymuned OpenStreetMap yn amrywiol, yn angerddol, ac yn tyfu bob dydd. Mae ein cyfranwyr yn cynnwys mapwyr brwdfrydig, gweithwyr profesiynol GIS, peirianwyr sy'n rhedeg y gweinyddion OSM, gwirfoddolwyr dyngarol sy'n mapio ardaloedd wedi'u heffeithio gan drychinebau, a llawer mwy. Er mwyn dysgu rhagor am y gymuned, gweler Blog OpenStreetMap, dyddiaduron defnyddwyr, blogiau cymunedol a gwefan OSM Foundation.

Data Agored

Mae OpenStreetMap yn ddata agored: mae modd i'w ddefnyddio at unrhyw ddiben oni bai eich bod yn rhoi cydnabyddiaeth i OpenStreetMap a'i gyfranwyr. Os byddwch chi'n addasu neu'n adeiladu ar y ddata mewn ffyrdd penodol, dim ond o dan yr un drwydded y cewch ddosbarthu'r canlyniad. Gweler y dudalen Hawlfraint a Thrwydded am fanylion.

Partneriaid

Cefnogir y gynhaliaeth gan Fastly, Aelodau corfforaethol OSMF, a phartneriaid eraill.