Logo OpenStreetMap OpenStreetMap

Ynglŷn â'r cyfieithiad hwn

Mewn achos o wrthdaro rhwng y dudalen hon a gyfieithwyd a'r gwreiddiol yn Saesneg, bydd y dudalen Saesneg yn cael blaenoriaeth.


Hawlfraint a Thrwydded

Mae OpenStreetMap yn darparu data map agored ar gyfer miloedd o wefannau, apiau symudol, a dyfeisiau caledwedd. Mae OpenStreetMap wedi'i adeiladu gan gymuned o bobl fel chi sy'n cyfrannu ac yn cynnal data mapio am ffyrdd, llwybrau, caffis, gorsafoedd trenau, a llawer mwy, ym mhob cwr o'r byd.

Dysgwch fwy am OpenStreetMap a dechrau mapio! Gallwch ddarllen mwy ar Flog OpenStreetMap, a thanysgrifio i weeklyOSM. Dewch o hyd i fapwyr eraill yn eich cymuned OSM leol. Cefnogwch y prosiect drwy ymuno â Sefydliad OSM a gwneud rhodd.

Trwydded OpenStreetMap

Mae OpenStreetMap yn data agored, sydd wedi'u trwyddedu o dan y Drwydded Cronfa Ddata Agored Open Data Commons (ODbL0 gan Sefydliad OpenStreetMap (OSMF). Yn gryno:

Rydych yn rhydd i gopïo, dosbarthu, trosglwyddo ac addasu ein data, ar yr amod eich bod yn cydnabod OpenStreetMap a'i gyfranwyr. Os byddwch yn newid neu'n adeiladu ar ein data, dim ond o dan yr un drwydded y cewch ddosbarthu eich canlyniad. Mae'r cod cyfreithiol llawn ar Open Data Commons yn esbonio eich hawliau a'ch cyfrifoldebau.

Trwyddedir ein dogfennaeth o dan Trwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike 2.0 (CC BY-SA 2.0).

Darllenwch fwy am ddefnyddio ein data ar dudalen Drwydded yr OSMF.

Sut i gydnabod OpenStreetMap

Pan fyddwch yn defnyddio data OpenStreetMap, mae rhaid i chi wneud y ddau beth canlynol:

  • Rhowch gydnabyddiaeth i OpenStreetMap drwy arddangos ein hysbysiad hawlfraint.
  • Gwnewch yn glir bod y data ar gael o dan y Drwydded Cronfa Ddata Agored.

Ar gyfer yr hysbysiad priodoliaeth, mae gennym ofynion gwahanol ar sut y dylid ei arddangos, yn ddibynnol ar sut y byddwch yn defnyddio ein data. Er enghraifft, mae rheolau gwahanol yn gymwys o ran sut i arddangos yr hysbysiad priodoliaeth p'un a ydych wedi creu map y gellir ei bori, map argraffedig, neu ddelwedd statig. Gellir cael rhagor o fanylion yn adran canllawiau priodoli y gofynion trwyddedu.

Yn gyffredinol, er mwyn egluro bod y data ar gael o dan y Drwydded Cronfa Ddata Agored, gallwch roi dolen i'r dudalen hawlfraint hon. Os byddwch chi'n dosbarthu OSM ar ffurf data, dylech enwi'r drwydded(au) a chysylltu'n uniongyrchol â nhw. Mewn cyfryngau lle nad yw cysylltiadau'n bosibl (e.e. gweithiau printiedig), cofiwch gynnwys yr URL llawn ar y dudalen, e.e. https://www.openstreetmap.org/copyright.

Yn yr enghraifft hon, mae'r cydnabyddiaeth yn ymddangos yng nghornel y map:

Enghraifft o sut i briodoli OpenStreetMap ar dudalen we

Toriadau hawlfraint

Hoffem atgofio cyfranwyr OSM i beidio ag ychwanegu data o unrhyw ffynonellau hawlfreintiedig (e.e. Google Maps neu fapiau print) heb ganiatâd penodol gan ddeiliaid yr hawlfraint.

Os ydych yn credu bod deunydd hawlfreintiedig wedi'i ychwanegu'n amhriodol at gronfa ddata OpenStreetMap neu'r wefan hon, dilynwch ein gweithdrefn tynnu i lawr neu ffeiliwch yn uniongyrchol ar ein tudalen ffeilio ar-lein.

Nodau Masnach

Mae OpenStreetMap, y logo chwyddwydr, a State of the Map yn nodau masnach cofrestredig y Sefydliad OpenStreetMap. Os oes gennych gwestiynau am eich defnydd o'r marciau, gweler ein Polisi Nod Masnach.

Gwasanaethau ychwanegol

Er bod OpenStreetMap yn ddata agored, ni allwn ddarparu API map na theils map am ddim ar gyfer trydydd partïon. Gweler ein Polisi Defnydd API, ein Polisi Defnydd Teils a'n Polisi Defnydd Nominatim.

Ein cyfranwyr

Mae ein cyfranwyr yn filoedd o unigolion. Rydym hefyd yn cynnwys data sydd wedi'i drwyddedu'n agored gan asiantaethau mapio cenedlaethol a ffynonellau eraill, gan gynnwys:

Am fanylion pellach am y rhain, a ffynonellau eraill sydd wedi cael eu defnyddio er mwyn helpu i wella OpenStreetMap, gweler y dudalen gyfranwyr ar Wici OpenStreetMap.

Nid yw cynnwys data yn OpenStreetMap yn awgrymu bod y darparwr data gwreiddiol yn cefnogi OpenStreetMap, yn darparu unrhyw warant, neu yn derbyn unrhyw atebolrwydd.